Flynyddoedd maith yn ôl, mewn castell yng nghesail mynyddoedd garw Eryri, yng Ngwynedd, roedd tywysog dewr a pharchus o'r enw Llywelyn yn byw. Roedd y tywysog hwn wrth ei fodd yn hela a'i hoff gi hela oedd bytheiad dewr a ffyddlon o'r enw Gelert. Byddai Gelert yn mynd gyda Llywelyn i bobman ac ef fyddai'n arwain yr haid bob amser. Doedd dim un helwriaeth yn rhy fawr, yn rhy gryf neu'n rhy ffyrnig i Gelert, ac nid oedd terfyn ar ei ddewrder.


