Cyfaill pennaf dyn yw ei gi. Roedd y Tywysog Llywelyn bob amser yn credu mai ei gi ffyddlon, Gelert, oedd ei gyfaill pennaf. O leiaf, dyna'r oedd yn ei feddwl, tan y noson dyngedfennol honno pan aeth allan i hela a gadael ei annwyl fab yng ngofal Gelert.