Lleoedd hudolus fu llynnoedd erioed. Mae eu dyfroedd yn dynfa i bobl bysgota, hwylio neu ymlacio ger eu glannau. Er hynny, flynyddoedd maith yn ol, cafodd un llanc ifanc weledigaeth syfrdanol wrth lyn diarffordd yng Nghymru, a newidiodd gwrs ei fywyd.