Myths and Legends

Myths and Legends website published by E2BN
HomeAbout this website
Create your ownTeachers

Dewin Cyfrwys a Chathod Rhyfedd

Fersiwn testun yn unig


Amser maith yn ôl roedd hen dafarn yn sefyll ar fin y ffordd rhwng Betws y Coed a Cherrig y Drudion. Roedd y dafarn yn boblogaidd iawn gyda phobl oedd yn teithio adre o Iwerddon. Fodd bynnag, byddai'r teithwyr hynny yn aml yn gadael y dafarn yn dlotach oherwydd, yn ystod y nos, byddai eu harian nhw’n diflannu heb reswm.

Doedd neb yn deall sut roedd hyn yn digwydd oherwydd byddai'r bobl yn cloi'r drws yn ofalus iawn bob amser ac roedden nhw’n sicr bod neb wedi dod i mewn i'r ystafell. Dirgelwch llwyr oedd hyn i gyd!

Dwy chwaer bert oedd yn cadw'r dafarn ac roedd hi'n flin iawn ganddyn nhw glywed am golledion y teithwyr. Roedden nhw'n methu â deall sut roedd y fath beth yn gallu digwydd ac roedden nhw'n poeni y byddai pobl yn penderfynu mynd i aros mewn tafarn arall oherwydd hyn. Ond derbyniodd y chwiorydd rywfai o gysur gan y teithwyr eu hunain. Roedd hi mor annheg, yn ôl y teithwyr, bod merched mor annwyl a dibynadwy yn cael cymaint o drafferth.

Ymhen ychydig aeth y newyddion ar led am y lladrata ac aeth un o'r rhai hynny oedd wedi colli ei arian i weld Huw Llwyd, sef bardd a dewin a oedd yn byw gerllaw yng Nghwmorthin ar lan Afon Cynfael, ym mhlwyf Ffestiniog. Roedd trafferthion y chwiorydd yn peri pryder i Huw ac oherwydd ei fod e'n credu bod hud a lledrith ar waith addawodd e y byddai'n ceisio datrys y dirgelwch.

Nid bardd yn unig oedd Huw Llwyd. Tan yn gymharol ddiweddar bu'n swyddog yn y fyddin. Felly, gwisgodd yn ei wisg gatrodol ac aeth e, dan gario'i gleddyf wrth ei ochr, i aros dros nos yn y dafarn. Pan gyrhaeddodd e cafodd e dipyn o sioc i gwrdd â dwy ferch mor ddymunol. Gofynnodd e am ystafell wely am y nos ac esbonio ei fod e ar y ffordd i Iwerddon. Cytunodd y ddwy chwaer ar unwaith.

Trwy'r noson roedd y ddwy chwaer a'u gwesteion eraill wrth eu bodd yn gwrando ar storïau difyr Huw am ei deithiau dros y byd ond, ar yr un pryd, roedd e'n wyliadwrus iawn i sicrhau bod dim byd rhyfedd yn digwydd yn y dafarn. Cyn mynd i'w ystafell gofynnodd am ganhwyllau, gan esbonio ei bod hi'n beth arferol i filwr gael golau cannwyll drwy'r nos yn ei ystafell. Ar ôl derbyn digon o ganhwyllau gan y chwiorydd aeth e i'w ystafell a dechrau paratoi ei hun am beth bynnag fyddai'n dod yn ystod y nos.

Dododd ei ddillad ar y llawr o fewn cyrraedd iddo, a thynnodd ei gleddyf o’i wain a’i adael e ar ei wely wrth ymyl ei law dde. Roedd e wedi cloi'r drws ac, er ei fod e’n gorwedd i lawr ar y gwely, roedd e’n hollol effro ac yn aros i rywbeth ddigwydd. Am amser hir roedd popeth yn hollol lonydd, ond yng nghanol y nos clywodd Huw sŵn tawel iawn.

Heb agor ei lygaid yn iawn edrychodd e i'r gornel a gwelodd gath ddu yn dod trwy fwlch cul rhwng ei ystafell e a'r un nesaf a honno'n cael ei dilyn yn syth gan un arall yn union yr un peth.

Wrth i Huw orwedd yno heb symud gallai e weld y ddwy gath yn mwynhau eu hunain yn prancio yma ac acw yn yr ystafell. Rhedon nhw ar ôl ei gilydd a chwarae gan wneud y sŵn lleia posib.

O'r diwedd pan oedden nhw'n hollol sicr bod Huw yn cysgu symudodd y cathod tuag at ei ddillad e a dechrau chwarae gyda nhw. Nawr roedd hi'n amlwg i Huw eu bod nhw'n cael amser gwych. Taflon nhw'r dillad i'r awyr a'u troi nhw drosodd gan roi eu pawennau ar ddarn o gortyn i ddechrau ac wedyn ar fotwm, wedyn ar un arall ac un arall gan agor pob botwm yn ei dro.

Cyn bo hir roedd pawen un o'r cathod yn y boced lle'r oedd pwrs Huw Llwyd ac roedd hi'n ceisio tynnu'r pwrs allan yn chwareus. Ar hynny cododd Huw ei gleddyf a dod â hi i lawr fel mellten gan daro pawen y gath gyda min gwastad y llafn. Sgrechiodd y gath mewn poen ac, mewn amrantiad, diflannodd y ddwy yn ôl i'r ystafell nesaf. Welodd Huw mo'r cathod ar ôl hynny. Erbyn bore trannoeth roedd pwrs ac arian.

Huw yn dal yn ddiogel ond roedd e wedi blino'n lân ac roedd eisiau bwyd arno fe erbyn iddo fe fynd i lawr i gael brecwast. Pan ddaeth un o'r chwiorydd at y bwrdd brecwast gofynnodd Huw ble roedd y llall. Esboniodd hi fod ei chwaer ddim yn gallu bod yno oherwydd ei bod hi'n teimlo'n sâl.

Dywedodd Huw Llwyd ei bod hi'n flin iawn ganddo glywed hynny ond meddai, "Mae’n rhaid i mi ffarwelio â hi gan fy mod i wedi mwynhau ei chwmni hi gymaint neithiwr." Doedd e ddim yn fodlon i'r ferch wrthod felly, o'r diwedd, aeth ag ef i weld ei chwaer.

Ar ôl iddo fe gydymdeimlo â hi yn ei salwch, estynnodd y dewin ei law i ffarwelio â hi. Estynnodd hithau ei llaw chwith ato fe. "Esgusodwch fi madam," meddai Huw "’Dw i erioed wedi derbyn llaw chwith, a fydda i ddim yn derbyn un nawr."

Yn amharod iawn ac yn amlwg mewn poen mawr, estynnodd y ferch ei llaw dde at Huw. Roedd ei llaw gyfan wedi ei rhwymo. Nawr roedd Huw yn sicr o'r hyn roedd e wedi ei ddrwgdybio. Y ddwy ferch ddymunol oedd y ddwy gath chwareus, gan mai gwrachod oedden nhw. Yn ystod y nos bydden nhw'n defnyddio'u pwerau hudol i weddnewid eu hunain ac, fel cathod, bydden nhw’n dwyn o'r teithwyr oedd yn aros yn eu cartre' nhw.

Pan afaelodd yn llaw'r chwaer meddai, "Huw Llwyd, Cwmorthin, ar lan Afon Cynfael ydw i, a dw i'n eich rhybuddio chi o'r perygl rydych chi wedi'i achosi i chi eich hunain gyda'r lladrata hwn. Ystyriwch y rhybudd hwn o ddifri, achos fydda i ddim yn maddau i chi'r tro nesa y bydd yn rhaid i mi ymweld â chi."

Roedd yn flin iawn gan y chwiorydd am yr hyn roedden nhw wedi ei wneud ac roedd popeth yn iawn yn y dafarn am ychydig. Ond roedd hi'n ymddangos bod y merched yn gweld eisiau eu hanturiaethau yng nghanol y nos a rhai misoedd wedyn cychwynnon nhw am Gwmorthin. Roedd Huw ar fin gadael ei dŷ pan welodd e'r ddwy chwaer o Fetws y Coed yn nesáu tuag ato fe.

Roedd e'n gwybod yn syth eu bod nhw wedi dod i roi swyn arno fe. Roedd e hefyd yn gwybod y byddai e'n syrthio o dan eu pŵer nhw petai e'n troi ei gefn atyn nhw. Ar y llaw arall wrth eu hwynebu nhw roedd e'n sicr nad oedden nhw’n gallu gwneud dim i'w niweidio fe. Felly, er mwyn rhwystro'u cynlluniau drwg, cerddodd tuag yn ôl, gan eu hwynebu nhw bob cam, o'i gartref e at garreg fawr oedd yn sefyll yn ymyl pwll du, dwfn lle'r oedd e’n arfer mynd i bregethu ac adrodd ei eiriau hudol e.

Wrth wneud hyn llwyddodd i ddianc rhag niwed. Unwaith roedd e wedi cyrraedd y garreg ac unwaith roedd dŵr o'i amgylch e, roedd e tu hwnt i gyrraedd dewiniaeth y gwrachod a gweiddodd. "'Dw i'n eich herio chi ferched. Cyn i mi ymadael â'r lle hwn fe fydda i'n sicrhau na fyddwch chi byth eto'n gallu swyno neb." A daeth ei eiriau'n wir oherwydd, trwy ddefnyddio'i wybodaeth e o hud a lledrith, llwyddodd Huw i gael gwared ar eu pwerau nhw.

Ar ôl hynny, wrth i'r merched deithio adre, roedden nhw'n gallu teimlo'u pwerau hudol yn lleihau a diflannu. Am weddill eu bywyd roedd y chwiorydd fel pob merch arall. Roedd rhaid iddyn nhw weithio'n galed am eu harian ac roedd eu tafarn yn llwyddiannus iawn. Ond yn aml iawn, yng ngolau'r lleuad, bydden nhw'n ochneidio wrth gofio pa mor rhydd roedden nhw wedi bod ar un adeg pan oedden nhw'n gallu crwydro trwy'r dafarn a chwarae eu triciau drwg.

A beth am Huw? Roedd e bob amser yn fodlon helpu'r bobl a fyddai angen ei ddewiniaeth e ac roedd ei fywyd yn fywyd maith a rhyfeddol. Fodd bynnag, a dweud y gwir, daeth gwên dros wefusau Huw pan feddyliodd e am y ddwy gath ddrwg oedd wedi chwarae mor rhydd yn ei ystafell y noson honno. Efallai eu bod nhw wedi ei swyno fe rywfaint wedi'r cyfan!

Play Dewin Cyfrwys a Chathod Rhyfedd
Play HTML5 version
For iPad and Android

Play Dewin Cyfrwys a Chathod Rhyfedd
Top of this page Copyright © E2BN 2006 | Contact Us | Accessibility
Create your own Myths and Legends
E2B® and E2BN® are registered trade marks and trading names of East of England Broadband Network (Company Registration No. 04649057)