Myths and Legends

Myths and Legends website published by E2BN
HomeAbout this website
Create your ownTeachers

Brân a'r Pair Hud

Fersiwn testun yn unig


Ymhell, bell yn %26#226;l yn hanes y byd roedd cawr o'r enw Br�n Fendigaid. Mab Ll?r, duw'r m�r oedd Br�n, a Belenos, duw'r haul, oedd ei dad-cu e. Roedd e�n dalach na'r goeden dalaf, ac roedd e'n gallu cerdded trwy'r m�r gyda'i ben uwchben wyneb y d?r.

Roedd Brân hefyd yn Frenin Prydain a defnyddiodd e'r aderyn du fel ei arwyddlun. Roedd e’n byw yng Nghastell Dinas, Powys. Roedd e mor fawr fel nad oedd unrhyw neuadd yn ddigon mawr i'w ddal e a bu'n rhaid codi pabell enfawr i'w gysgodi fe. Yn y babell hon roedd e'n cadw ei bair hud rhyfeddol.

Arweinydd da a theg oedd y Brenin Brân. Roedd ganddo fe fab o'r enw Caradawg, chwaer o'r enw Branwen, brawd o'r enw Manawydan a dau hanner brawd. Roedd y ddau frawd hyn mor wahanol â dydd a nos. Enaid tyner oedd Nisien ond roedd Efnisien yn danllyd ei natur ac fel Brân roedd e'n hynod gryf.

Un diwrnod daeth y Brenin Matholwch o'i deyrnas yn Iwerddon dros y môr i Gymru i ofyn i Brân am ganiatâd i briodi ei chwaer e. Roedd Branwen yn fodlon dod yn Frenhines Iwerddon ac felly cytunodd Brân. Gwelodd e'r briodas fel cyfle i'r ddwy wlad ddangos ewyllys da at ei gilydd. Yr unig un nad oedd neb wedi gofyn am ei farn oedd Efnisien oedd i ffwrdd ar daith.

Cynhaliwyd y briodas yn Aberffraw ar Sir Fôn ac yng nghanol y gwledda cyrhaeddodd Efnisien adre. Roedd e wedi drysu a gofynnodd e, "Pwy sy biau'r ceffylau hardd ar lan y môr?"

Dywedwyd wrtho fod y ceffylau yn perthyn i Frenin Iwerddon oedd newydd briodi â Branwen. Mewn cynddaredd, rhedodd Efnisien at y rhes o geffylau a'u clwyfo nhw i gyd yn ffyrnig gyda'i gleddyf.

Yn berwi â dicter dychwelodd Brenin Iwerddon a'i fintai i'w llongau. Anfonodd Brân lysgennad at Matholwch i gynnig ceffylau ac aur ond doedd y Brenin ddim yn fodlon. Er mwyn osgoi rhyfel rhwng y ddwy wlad cynigiodd Brân y peth mwyaf gwerthfawr iddo fe – ei bair hud rhyfeddol. Yn ffodus roedd hyn yn ddigon i dawelu Matholwch a dychwelodd e i'r wledd briodas. Ychydig yn ddiweddarach hwyliodd e i ffwrdd gyda'i briodferch, ei geffylau newydd ac, wrth gwrs, y pair hud.

Yn Iwerddon lledaenodd yr hanes am un o deulu Brân yn clwyfo'r ceffylau. Gan anwybyddu'r ffaith bod Brân wedi talu am y golled honno trodd y bobl yn erbyn Branwen. Er ei bod hi wedi rhoi mab i'r Brenin, bachgen o'r enw Gwern, llwyddodd gwŷr y llys i droi Matholwch yn ei herbyn hi. Anfonodd e Branwen o'r llys a'i gorfodi hi i weithio fel morwyn yn y gegin.

Achos ei bod hi'n cael ei thrin mor wael yno doedd neb o Brydain yn gallu gadael Iwerddon rhag ofn iddyn nhw fynd â'r newyddion am fywyd Branwen yn ôl i Brân. Un diwrnod tra oedd hi y tu allan daeth Branwen yn gyfeillgar gyda drudwy. Yn raddol dysgodd hi'r aderyn i ddeall ei geiriau ac wedyn sut i ddod o hyd i'w brawd gyda neges yn dweud wrtho fe am ei phroblemau i gyd.

Roedd y Brenin Brân wedi ei syfrdanu gan y newyddion am y modd ofnadwy roedd ei chwaer annwyl yn cael ei thrin. Gweithredodd e'n syth. Ychydig ddyddiau wedyn pan oedd meichiaid Matholwch yn gorffwys ar y traeth gwelon nhw olygfa ryfeddol. Roedd hi'n ymddangos iddyn nhw fel petai coed allan ar y môr a bryn y tu ôl iddynt. Roedd hi'n ymddangos iddyn nhw fel petai'r coed yn symud tuag at arfordir Iwerddon. Brysiodd y dynion i ddweud wrth y Brenin.

Gan gredu y byddai Branwen yn gwybod yr ateb, anfonodd y Brenin i ofyn iddi hi beth oedd ystyr y coed oedd yn nofio ar y môr. "Hwylbrennau nifer fawr o longau sy'n agos at ei gilydd ydy'r coed hynny," atebodd hi, "achos mae fy mrodyr ar eu ffordd i Iwerddon i frwydro." Heb oedi cynlluniodd y Brenin i arwain ei bobl i ddiogelwch, ynghyd â'r pair hud.

Aeth e â nhw dros Afon Llinon a gorchmynnodd i'w filwyr ddinistrio'r bont ar eu hôl nhw. Roedd y Brenin yn meddwl ei fod e'n ddiogel achos bod carreg atynnol hudol yn yr afon a fyddai'n tynnu unrhyw longau a fyddai'n ceisio ei chroesi i lawr i waelod yr afon.

Pan gyrhaeddodd byddin gref Brân yr afon a gweld adfeilion y bont estynnodd Brân ei gorff enfawr o un lan yr afon i'r llall a cherddodd y milwyr i gyd yn syth drosto fe. Pan safodd Brân ar yr ochr arall roedd llysgenhadon Matholwch yn aros er mwyn ceisio osgoi tywallt gwaed. Dywedon nhw y byddai'r Brenin yn gadael i fab ifanc Branwen, sef Gwern, gael y deyrnas i gyd ac y byddai Matholwch yn ei ildio'i hun i Brân.

Oherwydd bod Brân mor grac anfonodd e'r llysgenhadon i ffwrdd. Dychwelodd y llysgenhadon wedyn gyda chynnig gwell. Bydden nhw'n adeiladu neuadd mor fawr fel y gallai Brân ei hun fynd i mewn iddi a bydden nhw’n arwyddo cytundeb cyfeillgarwch gyda'r gwŷr o Brydain. Cytunodd Brân i hyn; am y tro cyntaf yn ei fywyd byddai ganddo fe do uwch ei ben. Arhosodd e gyda'i fyddin tra oedd y Gwyddelod yn gweithio'n galed i adeiladu'r neuadd.

Oherwydd bod Brân mor grac anfonodd e’r llysgenhadon i ffwrdd. Dychwelodd y llysgenhadon wedyn gyda chynnig gwell. Bydden nhw’n adeiladu neuadd mor fawr fel y gallai Brân ei hun fynd i mewn iddi a bydden nhw’n arwyddo cytundeb cyfeillgarwch gyda’r gwŷr o Brydain. Cytunodd Brân i hyn; am y tro cyntaf yn ei fywyd byddai ganddo fe do uwch ei ben. Arhosodd e gyda’i fyddin tra oedd y Gwyddelod yn gweithio’n galed i adeiladu’r neuadd.

Roedd drws ar bob pen i'r neuadd ac roedd y neuadd mor fawr fel bod angen cant o golofnau i ddal pwysau'r to. Ar ôl i'r adeilad gael ei gwblhau byddai'r ddwy fyddin yn cyfarfod yno i wneud heddwch a chymodi. Ond roedd cynllwyn gan Matholwch a'i gynghorwyr i ddinistrio Brân. Ar bob un o'r colofnau clymodd dynion Matholwch ddwy sach ledr a chuddio dyn arfog ymhob un, oedd yn barod i neidio allan a llofruddio Brân a'i ddynion pan fydden nhw'n clywed yr arwydd.

Ychydig cyn y cyfarfod daeth Efnisien i weld y neuadd fendigedig. "Beth sy yn y sach hon?" gofynnodd i'r golofn gyntaf. "Blawd," oedd yr ateb gafodd e, "Rydyn ni'n cadw blawd yn y sachau hyn."

Rhedodd Efnisien ei law dros un o'r sachau nes ei fod e'n gallu teimlo'r milwr y tu mewn ac wedyn gwasgodd ei ben rhwng ei fysedd enfawr. Aeth o gwmpas y neuadd yn gwneud yr un peth wrth bob colofn wrth i'w arweinydd wylio'n fud.

Wedi iddo fe orffen daeth y Gwyddelod i mewn trwy'r drws ar un pen y neuadd a daeth gwŷr Brân i mewn trwy'r llall. Aeth y cyfarfod yn dda ac roedd pawb wrth eu bodd gyda Gwern, y bachgen bach oedd yn mynd i etifeddu coron ei dad. Ond roedd Efnisien yn dal i fod yn grac am y cynllwyn, ac yn sydyn gafaelodd yn y plentyn a'i daflu e i'r tân.

Ar hynny dechreuodd brwydr fawr, ffyrnig gyda'r ymladd yn parhau trwy'r nos. Gyda golau gwawr gwelodd Efnisien rywbeth anhygoel. Pan oedd milwyr y Gwyddelod yn cael eu lladd, roedden nhw'n cael eu taflu i mewn i'r pair hud. Yn fuan bydden nhw'n dringo allan ac yn dechrau brwydro eto. Ond doedd yr un peth ddim yn digwydd i wŷr Brân.

Yn sydyn, sylweddolodd Efnisien faint o wŷr Prydain oedd wedi marw oherwydd ei weithredoedd e ac roedd yn flin ganddo. Er mwyn ei gosbi ei hun taflodd ei hun i mewn i'r pair a'i dorri e'n ddarnau o'r tu mewn. Roedd yr ymdrech hon mor fawr, hyd yn oed i rywun oedd mor gryf ag Efnisien, fel iddo dorri ei galon a marw'n syth.

O'r diwedd gorffennodd y frwydr heb fuddugoliaeth i'r naill fyddin na'r llall. Yn ystod y frwydr roedd saeth wenwynig wedi taro Brân yn ei droed ac roedd e'n gwybod bod marwolaeth yn agos. Dim ond chwech o ddynion oedd yn dal yn fyw ynghyd â Branwen a Manawydan. Gorchmynnodd Brân iddyn nhw dorri ei ben i ffwrdd a'i gladdu e ar y Gwynfryn yng Nghaer Llundain. Wrth orwedd yno'n llonydd byddai'r pen yn amddiffyn Prydain yn y dyfodol.

Pan ddychwelon nhw i Brydain i gladdu'r pen bu farw Branwen o dor calon. O ganlyniad i farwolaeth Brân methodd y cynhaeaf ac aeth y tir yn ddiffrwyth. Roedd cefnder Manawydan, Caswallawn, wedi cipio'r pŵer ym Mhrydain ac roedd e wedi achosi i Caradawg, mab Brân, gael ei ladd.

Am saith mlynedd arhosodd y gwŷr yn Harlech, yn cael eu diddanu gan y pen a oedd yn dal i siarad a chwerthin yn hapus. Wedyn symudon nhw ymlaen a byw yng Ngwales am wyth deg o flynyddoedd gan anghofio am eu tristwch a faint o amser oedd yn mynd heibio. Ond un diwrnod agorodd un ohonyn nhw ddrws y neuadd a chanlyniad hyn oedd iddyn nhw gofio am bopeth.

Sylweddolon nhw fod yn rhaid iddyn nhw adael am y Gwynfryn ac yno claddon nhw ben Brân a'i wyneb e tua'r cyfandir i amddiffyn y wlad rhag cael ei goresgyn. Arhosodd y pen yno nes i'r Brenin Arthur gyhoeddi nad oedd angen unrhyw hud a lledrith i warchod ei wlad e. Cododd e ben Brân o'r ddaear er mwyn profi ei fod e'n gallu amddiffyn y wlad ei hun ond yn drist iawn doedd e ddim yn llwyddiannus. Roedd y Saeson yn ymosod o hyd a blynyddoedd wedyn ymosododd y Normaniaid hefyd.

Adeiladon nhw gaer lle'r oedd pen Brân wedi cael ei gladdu - Tŵr Llundain. Ond mae'r chwedl yn aros yn y cof oherwydd mai Brân ydy'r aderyn sy wedi ymgartrefu yn Nhŵr Llundain ers hynny. Yn ôl y chwedl petai'r brain yn ymadael â'r lle byddai Prydain yn cael ei gorchfygu. Dyna pam mae rhai pobl yn hapus bod eu hadenydd nhw yn cael eu blaendorri!

Play Brân a'r Pair Hud
Play HTML5 version
For iPad and Android

Play Brân a'r Pair Hud
Top of this page Copyright © E2BN 2006 | Contact Us | Accessibility
Create your own Myths and Legends
E2B® and E2BN® are registered trade marks and trading names of East of England Broadband Network (Company Registration No. 04649057)