Myths and Legends

Myths and Legends website published by E2BN
HomeAbout this website
Create your ownTeachers

Llyn y Fan Fach

Fersiwn testun yn unig


Amser maith yn ôl yn y drydedd ganrif ar ddeg, ym mhlwyf Myddfai yn Sir Gaerfyrddin roedd hen wraig weddw'n byw gyda'i hunig fab. Roedd gan y weddw nifer fawr o ddefaid a gwartheg. Bob dydd roedd y mab yn mynd â'r gwartheg i bori ar y Mynydd Du, yn ymyl llyn o'r enw Llyn y Fan Fach.

Un diwrnod, er mawr syndod i'r gŵr ifanc, gwelodd e ferch ifanc oedd yn brydferth iawn. Roedd hi'n eistedd ar wyneb tawel y llyn ac roedd hi'n edrych i lawr gan ddefnyddio'r dŵr fel drych wrth gribo'i gwallt hir llaes. Yn sydyn fel petai hi'n synhwyro bod rhywun yn ei gwylio hi, edrychodd hi i fyny.

Roedd y gŵr ifanc wedi ei swyno. Estynnodd ei law, oedd yn dal y bara barlys a'r caws oedd gyda fe, fel petai e'n eu cynnig nhw iddi hi. Llifodd y ferch dros y dŵr tuag ato fe ond gwrthododd hi'r bwyd yn dyner ac yn gwrtais iawn. Ceisiodd e ymestyn i gyffwrdd â hi ond ciliodd hi’n ôl gan ddweud,

"Mae eich bara chi'n rhy galed; dydy hi ddim yn hawdd fy nal i."

Heb oedi, ymsuddodd hi o dan y dŵr a diflannu, gan adael y llanc i ddychwelyd adre gan ddal i feddwl am y ferch ifanc, brydferth oedd wedi ei swyno fe gymaint. Awgrymodd ei fam y dylai fynd yn ôl gyda thoes heb ei bobi. Roedd hi'n meddwl bod rhyw swyn yn ymwneud â'r bara caled oedd yn rhwystro'r ferch rhag derbyn ei mab.

Fore trannoeth, cyn i'r haul godi, roedd y dyn ifanc yn ôl ar lan y llyn, gan obeithio y byddai eto'n gweld golygfa hudol ond doedd dim byd ar wyneb y llyn ond tonnau bach yn cael eu gyrru gan y gwynt cryf ac roedd cwmwl du yn hongian dros grib y Fan Fach.

Ar ôl sawl awr, gostegodd y gwynt ac roedd hi'n ddiwrnod braf ond oherwydd ei fod e'n dal i feddwl o hyd am y ferch brydferth doedd y gŵr ifanc ddim wedi sylwi bod rhai o'i wartheg wedi symud at y llethr serth ar ochr arall y llyn.

Wrth iddo fe frysio i'w hachub nhw, ymddangosodd y ferch, yn edrych yn fwy prydferth nag o'r blaen. Estynnodd e'r bara oedd heb ei bobi iddi hi ond eto gwrthododd hi gan ddweud, "Mae eich bara chi heb ei bobi! Fydda i ddim yn eich derbyn chi". Ond, cyn iddi hi ddiflannu o dan y dŵr gwelodd y gŵr ifanc wên chwareus ar ei gwefusau a chododd ei galon rywfaint.

Y diwrnod nesa, gadawodd ei dŷ yn gynnar iawn ac, ar gyngor ei fam, aeth e â bara oedd wedi hanner pobi. Arhosodd e'n ddiamynedd iddi hi ymddangos eto, heb sylwi ar y glaw a'r heulwen ysbeidiol a ddaeth dros y llyn. Doedd e ddim wedi sylwi chwaith ar y ffaith bod ei wartheg e wedi crwydro draw at ymyl y llethr serth eto. Yr unig beth oedd ar ei feddwl e oedd gweld y ferch swynol ond bu'n aros yn ofer.

Roedd yr haul yn machlud wrth iddo fe fwrw golwg trist olaf dros wyneb y llyn cyn ymadael am ei gartre. Er mawr syndod iddo fe dyna lle roedd y forwyn yn cerdded ar wyneb y llyn ac roedd nifer o wartheg gyda hi.

Wrth iddi hi nesáu at y lan rhuthrodd y gŵr tuag ati hi. Gan fod gwên ar ei hwyneb hi synhwyrodd e ei fod e'n gallu gafael yn ei llaw hi a derbyniodd hi'r bara a gynigiodd e iddi hi. Cytunodd hi ei briodi ar un amod: Petai e'n ei tharo tair gwaith heb reswm byddai hi'n ei adael e am byth.

Gan deimlo'n llawer mwy hyderus nawr eu bod nhw wedi dyweddïo gollyngodd afael ar ei llaw am ennyd ond gwibiodd hi i ffwrdd ac ymsuddo o dan y dŵr.

Cymaint oedd ei dristwch fel ei fod e ar fin plymio i mewn ar ei hôl hi pan welodd e dair menyw brydferth a gŵr bonheddig yn ymddangos o ddŵr y llyn. Er bod rhesi arian yn llifo trwy wallt du'r gŵr roedd e'n edrych fel llanc ifanc nerthol. Dywedodd e wrth y gŵr ifanc y byddai e'n caniatáu'r briodas os oedd y gŵr yn gallu dweud pa un o'r tair merch oedd ei gariad e.

Doedd hon ddim yn dasg hawdd gan fod y tair merch yn edrych yr un peth yn union ond sylwodd e fod un ohonyn nhw wedi gwthio'i throed fymryn ymlaen. Er nad oedd y symudiad yn un amlwg iawn roedd e’n ddigon i'r llanc sylwi arno fe. Gwelodd e hefyd bod ei hesgid hi wedi ei chlymu ychydig yn wahanol i'r lleill. Nawr doedd dim amheuaeth ganddo fe, achos roedd e wedi ystyried o'r blaen pa mor rhyfedd roedd ei hesgidiau wedi eu clymu.

"Rydych chi wedi dewis yn gywir" meddai'r tad. "Byddwch yn amyneddgar gyda hi ac yn ffyddlon iddi hi ac fe wna i roi iddi hi, fel gwaddol, gymaint o ddefaid, gwartheg, geifr a cheffylau ag y gall hi eu cyfrif heb gymryd anadl. Ond cofiwch, os ar unrhyw adeg, byddwch chi'n ei tharo hi tair gwaith heb ahos wedyn bydd hi'n dychwelyd ata i gyda'r gwaddol hwn."

Derbyniwyd y cytundeb priodas hwn. Cyfrifodd y wraig ifanc yn gyflym tu hwnt nes bod dim anadl ar ôl ganddi hi. Yn syth ymddangosodd y nifer cywir o anifeiliaid o'r llyn.

Priododd y pâr ifanc ac aethon nhw i fyw ar fferm o'r enw Esgair Llaethdy ger Myddfai. Roedden nhw’n byw'n hapus ac yn fodlon iawn yma, a chawson nhw dri mab hardd.

Wedyn, un diwrnod, tra roedden nhw'n paratoi i fynd i fedydd gofynnodd ei gŵr iddi hi fynd i nôl un o'r ceffylau o'r cae. "Gwnaf" meddai hi "os ewch chi i nôl fy menig sy yn y tŷ." Ar ôl iddo fe fynd i nôl y menig a gweld nad oedd hi wedi mynd i nôl y ceffyl eto, tarodd ei hysgwydd yn ysgafn a chwareus gydag un o'r menig gan ddweud, "Dos, dos".

Atgoffodd hi ei gŵr am yr amodau yn eu cytundeb priodas gan ei rybuddio fe i fod yn fwy gofalus yn y dyfodol. Roedd e nawr wedi ei tharo unwaith heb reswm.

Ychydig wedyn roedden nhw mewn priodas ac roedd y gwesteion yn mwynhau eu hunain yn fawr pan ddechreuodd y wraig feichio wylo.

Wedi ei ddrysu, tarodd ei gŵr hi'n ysgafn ar ei hysgwydd a gofyn beth oedd yn bod. "Bydd trafferth yn dod i'r bobl hyn" meddai "ac i chi, os na fyddwch chi’n fwy gofalus achos rydych chi nawr wedi fy nharo i ddwywaith heb reswm."

Aeth y blynyddoedd rhagddynt a thyfodd eu plant i fod yn ddynion ifanc galluog iawn. Gan eu bod yn byw yn gysurus a hapus bu bron i'r gŵr anghofio y byddai un ergyd heb reswm yn difetha'i hapusrwydd. Oherwydd ei bod hi'n caru ei gŵr cymaint atgoffodd y wraig ef y byddai'n rhaid iddo fod yn ofalus iawn rhag ofn iddo ei tharo unwaith eto, ac o ganlyniad byddai'n rhaid iddynt wahanu am byth.

Un diwrnod roedden nhw mewn angladd gyda'i gilydd. Roedd y lle'n llawn galar a thristwch ond roedd y wraig yn ymddangos yn hapus ac roedd hi'n chwerthin. Roedd hyn yn dipyn o sioc i'r gŵr a rhoddodd e bwt bach iddi gan ddweud "Hust, hust, paid â chwerthin".

Dywedodd hi ei bod hi wedi chwerthin oherwydd bod pobl wrth iddyn nhw farw yn gadael eu trafferthion ar eu hôl nhw. Wedyn ar ôl iddi hi orffen chwerthin, a gan edrych yn drist iawn, cododd a gadael y tŷ gan ddweud, "’Dwi wedi derbyn yr ergyd olaf, mae'n cytundeb priodas ni wedi ei dorri, Ffarwel!"

Galwodd hi ei gwartheg a'r anifeiliaid eraill at ei gilydd heb anghofio'r ychen oedd yn aredig y cae. Dilynon nhw'r ferch dros Fynydd Myddfai a diflannu o dan ddŵr y llyn o'r lle roedden nhw wedi dod flynyddoedd ynghynt.

Ond mae cysylltiad mam â'i phlant yn gryf ac un diwrnod ymddangosodd hi o flaen ei meibion mewn cwm gerllaw. Addawodd hi gwrdd â nhw pryd bynnag y bydden nhw angen cyngor neu gymorth. Dywedodd wrth ei chyntaf anedig, Rhiwallon, y byddai e'n gallu iacháu pobl gan wella pob math o salwch. Wedyn rhoddodd fag i bob un ohonyn nhw a oedd yn cynnwys rhywbeth a fyddai'n arwain at wella nifer fawr o afiechydon.

Gan gadw at ei gair, cwrddodd hi â'i meibion pryd bynnag fydden nhw angen ei chymorth a dangosodd hi werth meddygol llawer o blanhigion a pherlysiau iddyn nhw. Ar ôl dysgu cymaint gan ei fam daeth Rhiwallon a hefyd ei feibion, Cadwgan, Gruffydd ac Einion yn feddygon pwysicaf eu hoes. Yn y flwyddyn 1230, ysgrifennon nhw eu gwybodaeth i gyd mewn llyfr o’r enw 'Llyfr Coch Hergest'.

Gellir dod o hyd i'r llyfr yn Llyfrgell Ysgolion Cymru yn Gray's Inn Lane. Heddiw, enw'r Cwm lle cwrddodd Rhiwallon â'i fam, ydy Cwm Meddygon. Os oes amheuon gennych chi am yr hyn rydych chi wedi ei ddarllen yma, ewch i'r llyn ac fe welwch chi, mewn sawl lle, gŵys yn y tir. Dyma'r gŵys a wnaethpwyd gan aradr yr ychen wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r llyn ac mae'n aros yno hyd y dydd heddiw, fel tystiolaeth i'r gwirionedd sydd yn y chwedl hon.

Play Llyn y Fan Fach
Play HTML5 version
For iPad and Android

Play Llyn y Fan Fach
Top of this page Copyright © E2BN 2006 | Contact Us | Accessibility
Create your own Myths and Legends
E2B® and E2BN® are registered trade marks and trading names of East of England Broadband Network (Company Registration No. 04649057)